Llywodraethu

Mae hygrededd Anheddau fel esiampl o ofal cymdeithasol yn seiliedig ar 30 mlynedd o brofiad, ar ddatblygu gwybodaeth, ac ar gasglu a meithrin cymhwysedd ar bob lefel o’r Sefydliad.Yn arbennig, mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr a’n Bwrdd Gweithredol yn meddu ar amrywiaeth o wybodaeth ddofn a phrofiad yn y sector gofal cymdeithasol.

Mae Anheddau yn Elusen Gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant, a chaiff ei lywodraethu gan ei Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad.Mae’r Ymddiriedolwyr yn dirprwyo’r gwaith o reoli’r Sefydliad o ddydd i ddydd i’r Prif Weithredwr. Yna, caiff dyletswyddau eu cyflawni fel y bo’n briodol gan reolwyr eraill o fewn Anheddau.


Mae gan y Sefydliad strwythur llywodraethu â dwy haen.

Haen Un

Cyngor Rheoli (Y Bwrdd Ymddiriedolwyr Llawn gyda’r Prif Swyddog Gweithredol, Pennaeth y Gwasanaeth a Phennaeth Gwasanaethau Corfforaethol/Ysgrifennydd y Cwmni yn bresennol). Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr Llawn (Cyngor Rheoli) yn cwrdd bob chwarter, yn ychwanegol at y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Haen Dau

Bwrdd Gweithredol. Bydd y Prif Swyddog Gweithredol, Pennaeth y Gwasanaeth a Phennaeth Gwasanaethau Corfforaethol yn cwrdd â Chadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr fel Grŵp Gweithredol. Mae’r grŵp hwn yn cwrdd o leiaf chwe gwaith y flwyddyn. Yng nghyfarfodydd y Grŵp Gweithredol, bydd yr Uwch Reolwyr yn adrodd i’r Cadeirydd ac ymdrinnir â materion sydd ddim angen cymeradwyaeth gan y Bwrdd llawn. Caiff adroddiad gan y grŵp hwn ei roi i’r Prif Weithredwr a’r Cadeirydd i’r Bwrdd llawn. Y Bwrdd fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ac yn cadarnhau’r polisïau y mae’r Sefydliad yn rhwym wrthynt. Mae’r Bwrdd yn derbyn cofnodion llawn y Bwrdd Gweithredol.

Fel Ymddiriedolwyr yr Elusen, mae aelodau gwirfoddol y Bwrdd wedi ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth o’r ansawdd gorau drwy seilwaith sy’n seiliedig ar werthoedd yr elusen ac sy’n gymwys i bawb fel ei gilydd. Fel sefydliad nid-er-elw, mae Anheddau yn gallu canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau ac ar yr arferion gorau yn hytrach nag ar gael elw o’i weithgareddau.

Mae Anheddau yn ei ddisgrifio ei hun fe Sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd – a’r gwerthoedd hynny yw “Ymrwymo, Grymuso, Rhagori”. Mae’r rhain yn gymwys i weithrediad mewnol ac allanol y busnes ac i ffordd rydym yn ymwneud â’r unigolion a gefnogir gennym.



Cyngor Rheoli 

Dr Brian Jones - Cadeirydd

Jonathan Walsh - Trysorydd

Dr Margaret Flynn

Sue James

Claire Thomas-Hanna

John Idris Rees

Rheolwyr Gweithredol 

Sharon Burke

Sharon yw Pennaeth y Gwasanaeth a’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol.

Mae hi’n gyfrifol am ddarpariaeth a datblygiad gwasanaethau, ac mae hi’n aelod o’r Bwrdd Gweithredol.

Mae hi’n gweithio i Anheddau ers wyth mlynedd ar hugain, ac mae hi wedi chwarae rhan hollbwysig yn llwyddiant y Sefydliad. Fel rheolwr gweithredol, mae ganddi ran allweddol yn datblygu’r ochr gwasanaethau o’r busnes, ac mae hi’n ymwneud â’r gwaith o gynllunio a rheoli gwasanaethau.

Mae ganddi ran weithredol yn sicrhau bod Anheddau yn dilyn y ddeddfwriaeth gyfredol a’r arferion gorau ar gyfer y busnes a’r Unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Mae gan Sharon ILM - Lefel IV mewn Rheolaeth, D32/D33 Dyfarniad Aseswyr, Diploma mewn Dulliau Cadarnhaol o ddelio ag Ymddygiad Heriol, ac IOSH Rheoli’n Ddiogel.

Cyn dod i Anheddau, bu Sharon yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd mewn uned ddiogel i bobl ag Anableddau Dysgu ar ôl cwblhau Diploma City and Guilds mewn Gofal Teuluol a Chymunedol yng Ngholeg Weymouth.

Nia Prendergast

Mae Nia yn Bennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol ac Ysgrifennydd y Cwmni.

Mae hi’n gyfrifol am Wasanaethau Corfforaethol ac mae hi’n aelod o’r Bwrdd Gweithredol.

Dechreuodd Nia ar ei gyrfa gydag Anheddau fel Cynorthwyydd Personol yn 1997.

Cyn ymuno ag Anheddau, bu Nia’n astudio Gweinyddu Busnes a Gwaith Cymdeithasol a graddiodd o Brifysgol Cymru Bangor tra’n gweithio’n rhan amser yn JW Graves, Tesco ac yn gwirfoddoli i’r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.

Mae gan Nia ILM Lefel 4 mewn Rheolaeth, CIPD Lefel 5 mewn Strategaeth Bersonol, mae hi’n Gymrawd o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ac mae hi’n Aelod Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Mae Nia yn weithiwr cyffredinol ym maes Adnoddau Dynol ond mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn Cyfraith Cyflogaeth. Mae hi’n datblygu ei sgiliau a’i gwybodaeth i gefnogi’r arbenigwyr swyddogaethol yn ei thîm ac yn datblygu Gwasanaethau Corfforaethol mewn ffyrdd dyfeisgar ac ystwyth er mwyn rhoi’r staff yn y llefydd gorau ar bob lefel i sicrhau canlyniadau i’r unigolion a gefnogir gennym.

Claire Higgins 


Claire ydy’r Prif Swyddog Gweithredol.  


Mae Claire yn gyfrifol am sicrhau bod y Sefydliad yn cael ei reoli’n effeithiol. 


Mae gan Claire brofiad helaeth o reoli Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fawr a chymhleth.  

 

Ar ôl dechrau fel Gweithiwr Cymorth yn ei harddegau hwyr, mae Claire wedi gweithio am 30 mlynedd i gael y cymwysterau i arwain a thrawsnewid gwasanaethau.  

 

Mae calon Claire yn wastad wedi bod ar ganfod atebion i alluogi pobl i fyw bywyd egnïol a llawn.  


A hithau â hanes o ddelio â sefyllfaoedd anodd, mae Claire wrth ei bodd yn canfod atebion ac mae hi bob amser yn canolbwyntio ar yr hyn mae pobl ei angen a’i eisiau. 


Mae gan Claire BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gweithiwr Cymdeithasol Cymwys a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. 

 

Fel gwraig a mam / llys-fam i 5, mae Claire wedi arfer â bywyd cartref prysur a gweithgar.  


Mae hi’n frwd dros lesiant ac mae hi’n cymryd rhan mewn trefn ffitrwydd ddyddiol ac yn cael boddhad o wthio ei chorff a’i meddwl drwy heriau corfforol. 


Mae hi’n annog ei theulu i wneud yr un fath ac mae hi’n mwynhau cefnogi pawb o’i chwmpas o roi cynnig ar bethau newydd.