Datganiad Anheddau Cyf ar Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl
(For English Version Click Here)
1 Cyflwyniad
Mae Caethwasiaeth a Masnachu Pobl yn parhau’n broblem yn y gymdeithas heddiw, a hynny’n lleol ac yn rhyngwladol. Mae cyfrifoldeb ar y Sefydliad i fod yn effro i’r risgiau, ni waeth pa mor fach ydynt yn ein gweithgareddau busnes a gweithredol ac yn ein cadwyni cyflenwi yn ehangach.
2 Strwythur y Sefydliad
Mae Anheddau Cyf yn elusen ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, ac mae ganddo tua £5 miliwn o drosiant. Felly, mae Anheddau yn elusen leol nid-er-elw sy’n cael ei redeg gan Gyngor Rheoli gwirfoddol.
3 Disgrifiad
Sefydlwyd Anheddau yn 1990, fel sefydliad elusennol nid-er-elw sy’n grymuso oedolion ag anghenion cymorth i fyw bywydau bodlon yng Ngogledd-orllewin Cymru.
4 Cenhadaeth
Mae Anheddau wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o’r safon uchaf.
Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gwneud llawer o bethau gwahanol
● Hybu annibyniaeth a dewis, a diogelu hawliau pobl
● Galluogi pobl i gael a gwella eu sgiliau ac ansawdd eu bywydau
● Gweithio gyda sefydliadau eraill sy’n rhannu athroniaeth Anheddau er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl
● Ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu gydol oes sy’n briodol i weithlu amrywiol er mwyn eu grymuso i ragori yn eu swyddi
● Defnyddio arferion cyflogaeth sy'n deg a chyson
6 Datganiad Polisi
Mae Anheddau Cyf yn cydnabod ei fod yn rhannu cyfrifoldeb gyda’i holl gyflenwyr, contractwyr cysylltiedig ac unrhyw drydydd partïon eraill sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi i weithredu’n foesegol. Mae hyrwyddo amodau gwaith teilwng yn ein sefydliad a’n cadwyni cyflenwi yn rhan o’n strategaeth er mwyn gweithredu mewn modd sy’n gyfrifol yn gymdeithasol.
7 Ein cadwyni cyflenwi
O ran darparu nwyddau a gwasanaethau, rydym yn mynnu bod ein gweithgareddau busnes yn rhedeg yn effeithlon ac effeithiol ac rydym yn ceisio defnyddio sefydliadau cydnabyddedig sydd ag enw da. Maent yn cael eu fetio er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn addas yn unol â’n hasesiad risg pan fo’n briodol. Mae ein cadwyn gyflenwi yn ymwneud â darparu nwyddau a gwasanaethau y byddai sefydliad sy’n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol eu hangen fel arfer, e.e. cymorth busnes a chyflenwi llafur. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cadwyni cyflenwi yn rhydd o gaethwasiaeth neu fasnachu pobl. I sicrhau hyn, rydym wedi ymrwymo i weithio’n foesegol a gydag uniondeb, ac rydym yn ceisio gweithio gyda sefydliadau sy’n rhannu ein gwerthoedd.
8 Ein polisïau
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes caethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn digwydd yn ein cadwyn gyflenwi nac yn unrhyw ran o’n busnes. Mae gennym amrywiaeth o bolisïau, gan gynnwys rhai yn ymwneud â llwgrwobrwyo, chwythu’r chwiban, gweithdrefnau disgyblu ac amrywiaeth sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i weithredu’n foesegol a gydag uniondeb yn ein holl berthnasoedd busnes.
9 Monitro a diwydrwydd dyladwy
Er mwyn gweithredu a gorfodi systemau a rheolaethau effeithiol i sicrhau nad yw caethwasiaeth a masnachu pobl yn digwydd yn unrhyw ran o’n cadwyn gyflenwi, sefydlwyd Grŵp Cyflogaeth Foesegol. Dyma aelodaeth y grŵp
Prif Swyddog Gweithredol
Pennaeth Gwasanaethau
Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
Rheolwr Cyllid
Swyddog Contractau
Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter.
Dyma gylch gorchwyl y grŵp:
● Cynnal adolygiadau rheolaidd o’n prosesau prynu a diwydrwydd dyladwy, gan gynnwys cynnal asesiadau risg a monitro.
● Sicrhau bod ein systemau Adnoddau Dynol a’r Gyflogres yn effeithiol er mwyn canfod ac adrodd ynghylch unrhyw achos o dorri’r ddeddfwriaeth ac er mwyn rhoi dulliau diogelu ar waith i reoli’r risg.
● Parhau i gyfathrebu’n dda ac agored â’n cadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth glir o’r disgwyliadau, y gweithgareddau a’r gydymffurfiaeth.
Hyd yma, nid ydym wedi cael unrhyw adroddiadau o gaethwasiaeth fodern yn ein sefydliad nac yn ein cadwyn cyflenwi.
9 Systemau mewnol
Rydym yn gweithredu proses recriwtio gadarn er mwyn sicrhau bod staff yn gymwys ac yn alluog a hefyd yn gymwys i wneud gwaith ar ein rhan.
10 Hyfforddiant
Er mwyn sicrhau lefel uchel o ddealltwriaeth o risgiau caethwasiaeth fodern yn ein cadwyni cyflenwi a’n busnes, mae’r Rheolwr Contractau wedi derbyn hyfforddiant.
11 Deall ein heffeithiolrwydd
Mae sicrhau diwydrwydd dyladwy o ran ein gweithgareddau prynu yn elfen allweddol o’n strategaeth lliniaru risgiau. Mae pob pryniant gan ddarparwr newydd yn cael ei werthuso, nid yn unig ar sail pris ond hefyd ar sail ei raddiad risg yn unol â’r Asesiad Risg. Mae’r Is-Grŵp Cyflogaeth Foesegol yn gwerthuso pob darparwr newydd. Felly, mae’r broses gaffael yn seiliedig ar system diwydrwydd dyladwy sy’n mynnu bod cyflenwyr newydd yn dangos eu hymrwymiad i fasnachu’n foesegol.
12 Datganiadau Dull
Datblygwyd datganiadau dull fel y bo’n berthnasol.