Search this site
Embedded Files

Do you have any questions or comments about what we do? A oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am yr hyn rydym yn ei wneud?

Contact / Cysylltwch
Anheddau Website 2025 Main
  • Anheddau Hafan
  • en
    • Google-TOS
Anheddau Website 2025 Main
  • Anheddau Hafan
  • en
    • Google-TOS
  • More
    • Anheddau Hafan
    • en
      • Google-TOS

Home     Llywodraethu    Gwasanaethau    Academi Anheddau    Gweithio i ni    Cysylltwch â ni

Gweithio i ni

Sefydlwyd Anheddau yn 1989 fel Sefydliad elusennol, nid-er-elw i roi grym i oedolion ag anghenion cymorth allu byw bywydau bodlon yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae Anheddau yn flaenllaw yn y maes Gofal Cymdeithasol ers 30 mlynedd a mwy.


Gwnech gais ar-lein heddiw!

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn rhan o'n tîm, gallwch weld y Disgrifiadau Swydd a gwneud cais ar-lein isod:  Mae gennym gynllun sy’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr sy’n dangos yn eu ffurflen gais eu bod yn bodloni’r gofynion hanfodol ar gyfer y swydd y maent yn gwneud cais amdani.  


Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi ydy cymudo i’r gwaith ac adref, a byddwch chi’n cael eich recriwtio ar gyfer ardal/tref benodol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cymudo i’r gwasanaethau yr ydych yn gwneud cais ar eu cyfer, a’ch bod chi’n barod i deithio.


Cliciwch yma i weld ein swyddi (Cymraeg yn dod yn fuan)      

Dydyn ni ddim yn derbyn ceisiadau drwy CV neu ebost.  


Cefnogaeth 

Mae gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn rhoi boddhad, ond rydym yn cydnabod ei fod yn gallu bod yn heriol hefyd. Mae rheolwr llinell i bob gweithiwr, ac mae system ar-alwad.

Mae cyfarfodydd tîm yn gyfle da i drafod materion a rhannu syniadau â’ch tîm, ac yn aml y tîm eu hunain fydd yn cynnig yr atebion. Bydd pob gweithiwr yn gweld y Prif Weithredwr yn y Fforwm Staff, lle gallant ofyn cwestiynau, rhoi adborth a chynnig awgrymiadau.

Hefyd, gall y Tîm Gwasanaethau Corfforaethol eich helpu gyda materion Dysgu a Datblygu, Iechyd a Diogelwch, Technoleg Gwybodaeth, deall ein polisïau a materion ehangach sydd gennych o ran cefnogaeth.

Ar adegau pan fyddwch chi’n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth emosiynol arnoch, mae holl staff Anheddau yn gallu defnyddio Gwasanaeth Cwnsela Cyfrinachol drwy Wasanaethau Cwnsela Medra.



Buddion

Yn ogystal â’r gefnogaeth reolaethol a’r gefnogaeth i ddysgu a datblygu, byddwch chi’n derbyn y canlynol:

  • Cynllun Tâl Salwch Galwedigaethol

  • Cynllun Mamolaeth a Thadolaeth Galwedigaethol

  • Lefel Uwch o Dâl Gwyliau

  • Cyfle am oramser

  • Mynediad at Gynllun Cwnsela

  • Mynediad at Gynllun Gostyngiadau i Ofalwyr

  • Bydd tâl am hyfforddiant craidd a chyfarfodydd tîm oherwydd maent yn rhan o’r wythnos waith.



Cwestiynau ac atebion

Am wneud cais am swydd Gweithiwr Cefnogol?

Mae swyddi llawn amser a rhan amser ar gael ar hyn o bryd yn yr ardaloedd yma:

Ynys Môn, Gogledd Gwynedd (Arfon a Dwyfor) a De Gwynedd (Meirionnydd), Conwy a Sir Ddinbych.


Yn ogystal â chefnogaeth reolaethol a chefnogaeth i ddysgu a datblygu, byddwch chi’n cael y canlynol: 

  • Cynllun Tâl Salwch Galwedigaethol 

  • Cynllun Mamolaeth a Thadolaeth Galwedigaethol 

  • Lefel Uwch o Dâl Gwyliau

  • Cyfle am oramser

  • Mynediad at Gynllun Cwnsela 

  • Mynediad at Gynllun Gostyngiadau i Ofalwyr 

  • Bydd tâl am hyfforddiant craidd a chyfarfodydd tîm gan eu bod yn rhan o’r wythnos waith. 

  • Does dim contractau ‘dim oriau’, mae pob contract yn barhaol.

  • Gweld eich slipiau cyflog ar-lein 

  • Cymorth ar gyfer y Fframwaith Sefydlu ar gyfer Gofal Cymdeithasol (AWIF) a’r cymwysterau sydd eu hangen i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. 

  • System Ar-Alwad


Mae Anheddau yn cefnogi’r #Maniffesto Talwch Gyflog Teg. 

Gwnewch gais ar-lein heddiw! 

Os ydych chi'n credu bod gennych y sgiliau i fod yn rhan o'n  tîm, gallwch chi fynd isod i weld y Disgrifiadau o’r Swyddi a gwneud cais ar-lein:

  • Anglesey

  • Conwy

  • Denbighshire

  • Gwynedd


Does gen i ddim profiad blaenorol mewn gofal cymdeithasol, ydy hyn yn rhwystr?

Does dim rhaid cael cymwysterau na phrofiad gwaith blaenorol i weithio i Anheddau. Byddwn ni yn eich hyfforddi ac yn eich helpu i gael y profiad angenrheidiol. Yr hyn sy’n bwysig ydy eich gwerthoedd a’ch agwedd tuag at weithio gyda phobl sydd angen cefnogaeth. Yn aml wrth i ni sgwrsio mewn cyfweliadau, mae’r ymgeiswyr yn sylweddoli eu bod yn gallu rhoi enghreifftiau o’u bywydau personol. 


Gwrandewch ar Mark Pearson, ein Rheolwr Hyfforddiant Craidd, oedd yn arfer bod yn bobydd. 


https://gofalwn.cymru/case-study/mark-pearson/

Sut fydda i’n datblygu ac yn dysgu?

Bydd pob gweithiwr newydd yn dechrau ar daith ddysgu gydag Anheddau, gan arwain at gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd hyn yn eich helpu i ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol.


Mae gennym adran hyfforddi a chymwysterau yn Academi Anheddau. Mae’r holl hyfforddwyr ac aseswyr yn gweithio i Anheddau, ac mae ganddyn nhw brofiad helaeth o weithio yn y sector gofal cymdeithasol.


Yn ystod eich cyfnod prawf ac wedi hynny, bydd cefnogaeth ar gael gan eich tîm ac wrth gwrs mae’r strwythur rheolaeth linell yn gefnogol ac yn awyddus i gefnogi a datblygu eu timau.

Fydda i’n gwneud gwahaniaeth?

Byddwch. Gallech chi weithio gydag amrywiaeth o anghenion cymorth, er enghraifft rhywun sydd ag anabledd corfforol, anabledd dysgu a/neu awtistiaeth. Pwy bynnag fyddwch chi’n gweithio gyda nhw, fe fyddwch chi, gyda’ch tîm, yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun. Mae hyn yn golygu bod y swydd yn rhoi boddhad, a dyna’n aml beth mae pobl yn ei fwynhau fwyaf am weithio yn y maes gofal cymdeithasol.


Mae gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn golygu cefnogi pobl gyda’u hanghenion anghlinigol. Mae Anheddau yn gweithio yn y maes ‘tai â chymorth’, ac mae ganddynt ganolfan ddydd o’r enw Annedd Ni.

Oes cyfleoedd i ddatblygu a chamu ymlaen?

Mae bron pob un o’n rheolwyr wedi dod yn rheolwyr yn ystod eu cyfnod yn gweithio gyda ni. Mae gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion yn tyfu ac yn newid drwy’r amser felly mae cyfleoedd i ddatblygu a chamu ymlaen. Mae’n adeg gyffrous i ymuno â’r gweithlu.


Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio, byddwch chi’n cael eich sefydlu drwy ddilyn Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan sy’n arwain wedyn at y Cymwysterau Craidd ac Ymarfer. Mae’r rhain wedi cael eu dylunio i’ch cefnogi chi i weithio ar wahanol lefelau o’r Sefydliad.


Rydym yn gwerthfawrogi nad yw pawb eisiau datblygu a mynd ymlaen i fod yn rheolwyr ac mae cyfleoedd i bawb ffynnu o fewn eu timau drwy gael tasgau penodol. Mae hyn yn ychwanegu amrywiaeth at y swydd, ac mae’n gyfle i’r staff ddatblygu gwahanol sgiliau a dangos arweinyddiaeth o fewn eu maes cyfrifoldeb.

Y potensial i gynyddu’r cyflog?

Yn Anheddau, cewch eich talu am oramser. Cewch lwfans ‘cysgu i mewn’ hefyd, ar ben eich cyflog sylfaenol. Er bod goramser yn ddewisol, mae cyfle i chi ennill mwy drwy weithio goramser.


Pan fyddwch chi’n cymryd gwyliau blynyddol, mae lefel uwch o dâl gwyliau.

Polisïau Teulu-Gyfeillgar a Gweithio’n Hyblyg

Rydym yn gwerthfawrogi bod bywyd yn brysur a bod hyn yn heriol ar adegau. 

Mae gan bawb ei gyfrifoldebau gartref yn ogystal â diddordebau a dyheadau sy’n dylanwadu ar eu hamser.

Byddwn ni’n ceisio eich helpu i gael cydbwysedd rhwng eich bywyd gartref a’ch bywyd yn y gwaith drwy gynnig trefniadau gweithio hyblyg. 

Er ein bod wedi ymrwymo i ddarparu’r ystod ehangaf o batrymau gwaith, byddwn ni’n wastad yn ystyried amgylchiadau personol y staff. Mae angen i’r rheolwyr a’r gweithwyr fod yn realistig a chydnabod na fydd yr holl opsiynau gweithio hyblyg yn briodol i bob swydd ymhob gwasanaeth oherwydd rhaid i ni ganolbwyntio ar anghenion yr unigolion sy’n cael cymorth gennym. 

Pan fo modd, byddwn ni’n derbyn pob cais am drefniadau gweithio hyblyg. Ar hyn o bryd mae’r gyfradd derbyn yn 100%. 

Pa fath o berson rydych chi’n chwilio amdano?

Byddwch chi’n helpu pobl i fyw’n fwy annibynnol a chael bywyd o ansawdd gwell.

Dyma rai o’r gwerthoedd a’r ffyrdd o ymddwyn a fydd eu hangen i weithio yn y maes gofal cymdeithasol:

  • Trin pobl ag urddas a pharch

  • Ymrwymo i gymorth o safon ac i wella bywydau

  • Da am weithio gyda phobl eraill

  • Amyneddgar

  • Parod i ddysgu a datblygu yn y gwaith. 


A dyma sut gallai’r gwerthoedd edrych yn eich gwaith o ddydd i ddydd:

  • Byddwch chi’n treulio amser yn gwrando ar bobl ac yn dod i’w ’nabod nhw a’u hanghenion

  • Byddwch chi’n parchu hawl unigolion i wneud eu dewisiadau a’u penderfyniadau eu hunain

  • Byddwch chi wedi ymrwymo i weithio fel rhan o dîm

  • Byddwch chi’n rhoi eich holl sylw i bobl 


Fel rhan o’r broses recriwtio, gofynnwn i chi wneud y ‘Cwis Gofal yn Galw’ i roi cyfle i chi edrych ar rai enghreifftiau o yrfa mewn gofal cymdeithasol, a chyfle i feddwl beth fyddech chi’n wneud ei wneud mewn gwahanol sefyllfaoedd. Ar y diwedd, byddwch chi’n cael adroddiad personol i’w ddefnyddio yn ystod eich cyfnod prawf er mwyn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau. 

Anheddau Cyf 

Anheddau Cyf is a Company Limited by Guarantee/Mae Anheddau Cyf yn yn Gwmni Gyfyngedig dan Warant 2380151; Registered Charity / Elusen Gofrestredig 701697

Modern Slavery Statement     |     Privacy Notice    |    Google Terms Of Service


Contact/Cysylltu

Phone / Ffon: 01248 675910

Address / Cyfeiriad: 6 Llys Britannia, Parc Menai, Bangor, LL57 4BN

Twitter    |    Facebook

© Anheddau Cyf 2022. All rights reserved. Google Sites by KWD
Report abuse
Report abuse