Search this site
Embedded Files

Do you have any questions or comments about what we do? A oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am yr hyn rydym yn ei wneud?

Contact / Cysylltwch
Anheddau Website 2025 Main
  • Anheddau Hafan
  • en
    • Google-TOS
Anheddau Website 2025 Main
  • Anheddau Hafan
  • en
    • Google-TOS
  • More
    • Anheddau Hafan
    • en
      • Google-TOS

Home     Llywodraethu    Gwasanaethau    Academi Anheddau    Gweithio i ni    Cysylltwch â ni

Croeso I Anheddau 

Sefydlwyd Anheddau yn 1989 fel Sefydliad elusennol, nid-er-elw i roi grym i oedolion ag anghenion cymorth allu byw bywydau bodlon yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae Anheddau yn flaenllaw yn y maes Gofal Cymdeithasol ers 30 mlynedd a mwy.

Cafodd ei sefydlu fel darparwr gwasanaethau cymorth i helpu pobl i wneud y mwyaf o’u potensial yn eu cymunedau, ac mae wedi ennill toreth o brofiad wrth weithio yn y maes am dri deg mlynedd. Mae Anheddau wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o’r safon uchaf.



Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gwneud llawer o bethau gwahanol



  • Hybu annibyniaeth, lles a dewis, a diogelu hawliau pobl

  • Galluogi pobl i ennill sgiliau a gwella ansawdd eu bywydau

  • Gweithio gyda sefydliadau eraill sy’n rhannu athroniaeth Anheddau er mwyn sicrhau’r canlyniadau cadarnhaol gorau posibl i bobl

  • Ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu gydol oes i weithlu amrywiol er mwyn rhoi’r grym iddynt ragori yn eu swyddi

  • Defnyddio arferion cyflogaeth sy’n deg ac yn gyson


Mae Polisi Gofal Cymdeithasol wedi datblygu dros y 30 mlynedd ddiwethaf

Erbyn heddiw, mae Anheddau o blaid y dulliau Person-Ganolog a gafodd ei hyrwyddo gan y Strategaeth Cymru Gyfan a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) i sicrhau’r 5 egwyddor llesiant sydd yn y Ddeddf.

Mae profiad pellgyrhaeddol ac amrywiol Anheddau yn dibynnu ar ddefnyddio canlyniadau personol i gefnogi pobl ag awtistiaeth, anableddau dysgu, anghenion iechyd meddwl ac anghenion cymorth eraill. 

dysgu mwy




Y nod yw’r lefel uchaf o gynnydd a datblygiad i’r unigolyn. Mae Anheddau yn hwyluso ac yn cynorthwyo unigolion i fod yn fwy galluog ac annibynnol ymhob agwedd ar eu bywydau eu hunain.




Anheddau Cyf 

Anheddau Cyf is a Company Limited by Guarantee/Mae Anheddau Cyf yn yn Gwmni Gyfyngedig dan Warant 2380151; Registered Charity / Elusen Gofrestredig 701697

Modern Slavery Statement     |     Privacy Notice    |    Google Terms Of Service


Contact/Cysylltu

Phone / Ffon: 01248 675910

Address / Cyfeiriad: 6 Llys Britannia, Parc Menai, Bangor, LL57 4BN

Twitter    |    Facebook

© Anheddau Cyf 2022. All rights reserved. Google Sites by KWD
Report abuse
Report abuse