Gwasanaethau

Crynobded o safod uchel y gefnogaeth a ddarparwn, gan gynnwys sylwadau ei ein nodau, polisi gofal cymdeithasol a'n hegwyddorion.




Mae Anheddau wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o’r safon uchaf

Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gwneud llawer o bethau gwahanol:

Hybu annibyniaeth, lles a dewis, a diogelu hawliau pobl

Gweithio gyda sefydliadau eraill sy’n rhannu athroniaeth Anheddau er mwyn sicrhau’r canlyniadau cadarnhaol gorau posibl i bobl

Galluogi pobl i ennill sgiliau a gwella ansawdd eu bywydau

Ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu gydol oes i weithlu amrywiol er mwyn rhoi’r grym iddynt ragori yn eu swyddi

Defnyddio arferion cyflogaeth sy’n deg ac yn gyson



Anheddau ar bolisi gofal cymdeithasol

Mae Polisi Gofal Cymdeithasol wedi datblygu dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Erbyn heddiw, mae Anheddau o blaid y dulliau Person-Ganolog a gafodd ei hyrwyddo gan y Strategaeth Cymru Gyfan a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) i sicrhau’r 5 egwyddor llesiant sydd yn y Ddeddf.

Mae profiad pellgyrhaeddol ac amrywiol Anheddau yn dibynnu ar ddefnyddio canlyniadau personol i gefnogi pobl ag awtistiaeth, anableddau dysgu, anghenion iechyd meddwl ac anghenion cymorth eraill. Yn ogystal â manteisio ar yr arbenigedd sydd ganddynt yn fewnol, mae cyd-gynhyrchu yn rhan annatod o’r broses o sicrhau bod gofynion cymorth a chanlyniadau yn cael eu creu, yn cael sylw, yn cael eu cynnal a’u hadolygu gyda – ac ar gyfer - pob unigolyn sy’n derbyn cymorth.

Rydym yn rhoi’r grym i unigolion hwyluso a chanfod eu nodau personol eu hunain, canfod beth sydd orau ganddynt, beth yw galluoedd a’u dewisiadau. Mae hyn yn sicrhau bod pob unigolyn a gefnogir gennym yn cael llais, dewis a rheolaeth wrth benderfynu sut caiff eu hanghenion cymorth a’u dewisiadau eu canfod, eu darparu a’u cyflawni tra’n rhoi’r lefel uchaf o annibyniaeth iddynt. Mae Anheddau yn galluogi unigolion i fod yn bartneriaid gweithredol wrth greu a gweithredu eu cymorth eu hunain er mwyn sicrhau bod eu potensial yn cael ei wireddu.

''Y nod yw’r lefel uchaf o gynnydd a datblygiad i’r unigolyn. Mae Anheddau yn hwyluso ac yn cynorthwyo unigolion i fod yn fwy galluog ac annibynnol ymhob agwedd ar eu bywydau eu hunain.''





"Rydym yn rhoi’r grym i unigolion hwyluso a chanfod eu nodau personol eu hunain, canfod beth sydd orau ganddynt, beth yw galluoedd a’u dewisiadau."




Sut rydym yn ymdrin â chymorth?

Mae Anheddau yn hyrwyddo’r Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a ddatblygwyd gan Strategaeth Cymru Gyfan a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) gan wneud y mwyaf o 5 egwyddor llesiant y Ddeddf.

1. Llais a rheolaeth

2. Atal ac ymyrraeth gynnar

3. Lles

4. Cydgynhyrchu

5. Gweithio Aml-Asiantaeth



anheddaucyf_1.pdf