Academi Anheddau

Mae Academi Anheddau yn swyddogaeth o fewn Gwasanaethau Corfforaethol. Mae yno dîm cymwys o aseswyr a hyfforddwyr mewnol sydd hefyd yn weithwyr gofal cymdeithasol sydd â chymwysterau galwedigaethol.



Pwrpas

Pwrpas Dysgu a Datblygu yn Anheddau yw sicrhau bod ein staff i gyd yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol er mwyn darparu cefnogaeth o’r ansawdd gorau a bod y gefnogaeth honno’n cael ei darparu yn unol â’r gofynion rheoleiddiol a threfniadaethol.

Mae Anheddau wedi ymrwymo i barhau i godi safonau yn y dulliau cefnogi. Mae Dysgu a Datblygu effeithiol yn un o gonglfeini’r gwaith yma, ac mae’n rhan hollbwysig o gyflawni hyn a’n nodau strategol.

Egwyddorion

Mae gwerthoedd Anheddau yn seiliedig ar y gred fod staff yn allweddol i wasanaeth o safon ac mai ei weithwyr yw ei ased pwysicaf.

Mae hyn wedi’i ymgorffori yn y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i bawb, i alluogi’r gweithwyr i ddatblygu mewn modd proffesiynol a phersonol.

Mae agwedd gyffredinol Academi Anheddau tuag at Ddysgu a Datblygu yn seiliedig ar y fframwaith rheoleiddiol a’r arferion gorau mewn gofal cymdeithasol a hyfforddiant. Cafodd ei datblygu er mwyn canolbwyntio ar y berthynas rhwng beth mae’r staff yn ei ddysgu a beth yw’r canlyniadau unigol i’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau Anheddau.

Mae tri phrif lwybr dysgu a datblygu i sicrhau bod y staff yn cael eu hyfforddi ymhob agwedd ar eu swydd a’u bod yn parhau i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus ar ôl yr hyfforddiant cychwynnol.

Y rhain yw’r Hyfforddiant Craidd/Gorfodol, Hyfforddiant Pwrpasol a’r cyfle i ennill cymhwyster achrededig fel yr argymhellir gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.


Taith y Dysgwyr

Mae gwelliant parhaus yn ganolog i’n polisi dysgu. Bydd pob gweithiwr yn dechrau ar daith gydag Anheddau, a bydd y daith honno’n gymysgedd o hyfforddiant gorfodol, hyfforddiant sy’n seiliedig ar gynlluniau gofal, a chymwysterau galwedigaethol sy’n addas ar gyfer y swydd. Caiff gweithwyr eu hannog i fod yn gyfrifol am eu datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain, ac i weithio i ddatblygu eu dulliau ymarfer yn unol â Chod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.

Cymwysterau Galwedigaethol Achrededig

Mae Anheddau yn cydnabod gwerth cymwysterau galwedigaethol wrth gefnogi datblygiad y gweithlu, ac mae ganddo ei Ganolfan Achredu ei hun.

Mae Canolfan Asesu Cymwysterau Anheddau wedi cael ei hachredu gan Sefydliad Dyfarnu CBAC / City & Guilds. Mae’n gyfrifol am asesiadau sy’n arwain at achredu sgiliau a gwybodaeth yn y gweithlu, ac mae ganddi ei thîm ei hun o aseswyr a dilyswyr cymwys.

Mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cefnogi’n fewnol gan aseswyr a hyfforddwyr cymwys er mwyn bod yn barod ar gyfer cofrestriad cychwynnol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Wrth i daith y dysgwyr fynd yn ei blaen, mae’r ganolfan hefyd yn helpu’r staff i gael y cymwysterau angenrheidiol a’r cyfleoedd dysgu er mwyn gallu ailgofrestru.

Mae Dysgu a Datblygu yn Anheddau wedi’i ddylunio i gydymffurfio â rheoleiddwyr, ond mae ganddo gysylltiad cryf hefyd ag anghenion yr unigolion a gefnogir gennym.

Mae ein Tîm Parch mewnol wedi’u hyfforddi a’u hachredu gan NAViGO ac mae pob un wedi llofnodi addewid y ‘Restraint Reduction Network’.