Croeso I Anheddau 

Sefydlwyd Anheddau yn 1989 fel Sefydliad elusennol, nid-er-elw i roi grym i oedolion ag anghenion cymorth allu byw bywydau bodlon yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae Anheddau yn flaenllaw yn y maes Gofal Cymdeithasol ers 30 mlynedd a mwy.

Cafodd ei sefydlu fel darparwr gwasanaethau cymorth i helpu pobl i wneud y mwyaf o’u potensial yn eu cymunedau, ac mae wedi ennill toreth o brofiad wrth weithio yn y maes am dri deg mlynedd. Mae Anheddau wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o’r safon uchaf.



Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gwneud llawer o bethau gwahanol




Mae Polisi Gofal Cymdeithasol wedi datblygu dros y 30 mlynedd ddiwethaf

Erbyn heddiw, mae Anheddau o blaid y dulliau Person-Ganolog a gafodd ei hyrwyddo gan y Strategaeth Cymru Gyfan a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) i sicrhau’r 5 egwyddor llesiant sydd yn y Ddeddf.

Mae profiad pellgyrhaeddol ac amrywiol Anheddau yn dibynnu ar ddefnyddio canlyniadau personol i gefnogi pobl ag awtistiaeth, anableddau dysgu, anghenion iechyd meddwl ac anghenion cymorth eraill. 




Y nod yw’r lefel uchaf o gynnydd a datblygiad i’r unigolyn. Mae Anheddau yn hwyluso ac yn cynorthwyo unigolion i fod yn fwy galluog ac annibynnol ymhob agwedd ar eu bywydau eu hunain.