|
Ynglŷn
ag
Anheddau
Mae Anheddau
Cyf yn ddarparwr gofal cymdeithasol nad yw'n gwneud elw, sy'n
cefnogi oedolion yn eu cymunedau.
Wedi ein
lleoli ym Mangor, rydym ni wedi ennill enw da am ddarparu cefnogaeth
o'r ansawdd uchaf yn ardal Gogledd Cymru.
Cyngor Rheoli
gwirfoddol a thîm rheoli o staff proffesiynol sy'n rhedeg
Anheddau.
Rydym ni'n
gweithio'n agos gydag asiantaethau a sefydliadau eraill sydd,
yn debyg i ni, yn ceisio gwella a datblygu gwasanaethau sy'n
bodloni anghenion a dyheadau unigolion.
Mae'r gwasanaeth
rydym ni'n ei gyflwyno i bob unigolyn yn seiliedig ar gynllun
sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn hwnnw. Mae hyn yn sicrhau bod
gwasanaethau'n hyblyg ac yn amrywiol yn ôl anghenion pob unigolyn.
Mae staff
yn allweddol o ran cyflawni'r gwasanaeth uchod. O ganlyniad,
rydym ni'n rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu a hyfforddi staff.
Mae gennym
ni adran hyfforddi fewnol ac rydym wedi'n hachredu â City
and Guilds ac ILM i gynnig NVQs mewn Gofal a Rheoli. Rydym
ni wedi cynnal y wobr Buddsoddwr mewn Pobl er 1996.
|