Llywodraethu

Y Cyngor Rheoli yw corff llywodraethol Anheddau (yr ymddiriedolwyr). Yr ymddiriedolwyr sydd yn bennaf gyfrifol am reoli Anheddau.

Mae'r ymddiriedolwyr yn cael eu hethol yn flynyddol ac yn gweithredu'n wirfoddol.

Mae Anheddau yn gwmni a gyfyngir trwy warant ac yn elusen gofrestredig, felly, yr ymddiriedolwyr yw cyfarwyddwyr y cwmni ac ymddiriedolwyr yr elusen.

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am lywodraethu'n effeithiol a sicrhau bod Anheddau'n bodloni ei nodau ac amcanion ac yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol

Mae'r ymddiriedolwyr yn cyfarfod bob tri mis i drafod cynnydd a phennu cyfeiriad y cwmni. Mae Bwrdd Gweithredol sy'n cynnwys Cadeirydd y Cyngor Rheoli, y Prif Weithredwr, Pennaeth Gwasanaethau Gweinyddol/Ysgrifenyddes y Cwmni, a Phennaeth Gwasanaethau Cleientiaid, yn cyfarfod yn fisol ac yn adrodd i'r bwrdd cyfan.

Y Cyngor Rheoli Cyfredol (gwirfoddol)

Brian Jones (Cadeirydd) - gweler proffil llawn

Richard Barker (Is-gadeirydd)

Jonathan Walsh (Trysorydd)

John Williams

Bwrdd Rheoli Gweithredol Aelodau (gweithwyr y sefydliad)

Prif Weithredwr - Janetta Toleman Jones

Pennaeth Gwasanaethau Gweinyddol/Ysgrifenyddes y Cwmni - Nia Prendergast

Pennaeth Gwasanaethau Cleientiaid - Sharon Burke