Ein Gwasanaethau

Tai â Chymorth a Gofal Preswyl - Rydym ni'n darparu system cymorth llawn, yn aml yn y tymor hir, mewn partneriaeth ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol, ymddiriedolaethau iechyd a chymdeithasau tai.


Gofal Cartref a Seibiant - pecyn cymorth sy'n seiliedig ar anghenion unigol.


Gwasanaeth Dydd Annedd Ni - Wedi'i leoli ym Mangor, mae ein cyfleuster gwasanaeth dydd yn cynnig amrywiaeth o sesiynau therapiwtig, hamdden ac addysgol. Cliciwch ar y ddolen ar fanylion llawn:


Anheddau Awyr Agored - cyfle i gael profiadau dringo, abseilio, cerdded mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir, a gweithgareddau awyr agored eraill. Rydym nišn defnyddio ein wal ddringo dan do ein hunain a chyfleusterau eraill yn ystod tywydd gwael, ac ar gyfer sesiynau rhagarweiniol cychwynnol. Cliciwch ar y ddolen am fanylion llawn: