Datganiad o fwriad

Disgrifiad:

Sefydlwyd Anheddau yn 1990.Mae'n fudiad elusennol nad yw'n gwneud elw sy'n galluogi oedolion ag anghenion cymorth i fyw bywydau cyflawn yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Cenhadaeth:

Mae Anheddau wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o'r safon uchaf.

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn gwneud nifer o wahanol bethau:

Hyrwyddo annibyniaeth a dewisiadau ac amddiffyn hawliau pobl.

Galluogi pobl i feithrin a gwella'u sgiliau ac ansawdd eu bywydau.

Gweithio gyda mudiadau eraill sy'n rhannu athroniaeth Anheddau er mwyn sicrhau'r canlyniadau mwyaf cadarnhaol posib i'r bobl hyn.

Ymrwymo i ddarparu cyfleoedd addas ar gyfer datblygu a dysgu gydol oes i weithlu amrywiol er mwyn eu galluogi i ragori yn eu swyddogaethau.

Defnyddio arferion cyflogaeth teg a chyson .