|
Cyflwyno Anheddau Beth yw Anheddau? Elusen leol ddi-elw sydd yn gweithio gyda unigolion sydd ag anghenion cefnogaeth yw Anheddau. Rydym wedi ein lleoli ym Mangor ac wedi ennill enw da am ddarparu cefnogaeth o'r radd uchaf i nifer o unigolion ar hyd a lled Gogledd Cymru. Gaiff Anheddau ei redeg gan Gyngor Rheoli gwirfoddol a thim rheoli bach o staff proffesiynol. Rydym yn gweithio yn agos gyda asiantaethau a mudiadau eraill sydd, fel ninnau, yn ceisio gwella a datblygu gwasanaethau a bodloni anghenion a dymuniadau'r bobl hynny sy'n eu defnyddio. Rydym yn cyflogi dros 100 o staff ar gytundebau parhaol ac mae gennym nifer o staff cynorthwyol sy'n cael ei talu yn ol yr awr. Staff yw'r allwedd i unrhyw wasanaeth o ansawdd, a rhoddwn gryn bwyslais ar ddatblygu staff. Gawsom ddyfarniad Buddsoddwr mewn Pobl ym 1996 chawsom ail asesiad llwyddianus yn 2001. Rydym wedi cofrestru
gyda'r Gomisiwn Elusennau (rhif 701697) a chyda'r Ty'r Cwmniau (Cwmni
Cyfyngedig drwy warant rhif 2380151) Pa wasanaethau a gynigir gennym? Llety gyda chefnogaeth - darparu system gefnogi lawn sy'n galluogi unigolyn i fyw yn ei gartref, neu ei chartref, ei hun. Yn aml, mae hyn yn gefnogaeth tymor hir, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol/Iechyd a Chymdeithasau Tai. Gofal Cartref, Cronfa Byw'n Annibynol, Gofal Dydd a Gofal Seibiant - darparu cefnogaeth nad yw mor ddwys, fel rhan o becyn gofal i unigolion. Anheddau Awyr Agored - darparu cyfleoedd i unigolion roi cynnig ar ddringo, abseilio, mynydda, beicio a gweithgareddau eraill yn yr awyr agored. Os hoffech rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd o Aneddau, ffoniwch (01248) 372 330 neu cysylltwch â ni.
|